|
|
Sefydliad Laura Ashley Amcanion a Pholisïau |
|
|
Mae’r SLA yn adolygu ei pholisïau cymorth yn gyson. Oherwydd hyn, tueddwn fel rhoddwyr nawdd, i fod yn fwy adweithiol, yn hytrach na pwysleisio ar duedd I arwain newid. Ychydig iawn o geisiadau a dderbynnir heb eu gofyn, sydd yn llwyddiannus. Cyn ymgeisio, cynghorwn ymholi er mwyn osgoi cael eich siomi. Prif Feysydd y gweithgareddau yw: Cynlluniau yng Nghanolbarth Cymru WledigI gyfoethogi bywydau teuluoedd Adnewyddu cefn gwlad e.e. Marchnadoedd Ffermwyr Addysg I oedolion Gwasanaeth lês yn y gymdeithas Ceir gwybodaeth mwy manwl ar y gwahanol fathau o gynlluniau a gefnogwyd gan y Sefydliad drwy ddarllen Gwobrwyon a Roddwyd. Addysg Mae’r ymddiriedolwyr wedi creu sefydliadau o’u dewis eu hunain er mwyn cynnig ysgoloriaethau arbennig. Athrofeydd cerddoriaeth – ysgoloriaethau ar gyfer cerddorion dawnus L.S.E. – ysgoloriaeth I fyfyriwr M.A. llawn oed mewn Anthropoleg Coleg Celfyddyd Frenhinol – ysgoloriaeth I fyfyriwr llawn oed sydd yn astudio tecstilau Gwobrwyon Cymrodoriaeth Y bwriad ydyw anelu at galonogi unigolion hefo syniadau gwreiddiol ac ymarferol mewn disgyblaethau mor amrywiol a cherddoriaeth a chynllunio, peirianneg a ffiseg, a’r gallu i’w meithrin i derfyn ffrwythlon. Rhoddir y gwobrwyon naill ai o dan y pennawd Gwyddoniaeth neu’r pennawd Y Celfyddydau Mae ychwaneg o wybodaeth ar y Gwobrwyon Cymrodoriaeth ar gael ar y tudalen yma. Y Celfyddydau yn Llundain Sefydlwyd cynllun ar brawf i barhau chwe mis o’r enw SLATE gan Jane Ashley – rhwydwaith o weithwyr ffilmiau dogfennol er mwyn meithrin defnydd lletach o’u doniau. |
||